Cyfnod newydd yn hanes Cyfiaith


Wedi 10 mlynedd yn rhan o’r ymgynghoriaeth iaith, Iaith Cyf., mae Cyfiaith bellach wedi’i sefydlu’n gwmni annibynnol dan berchnogaeth Sian Eleri Jones a Heledd Williams.

Profiadol

Sian a Heledd sydd wedi bod wrth y llyw ers sawl blwyddyn erbyn hyn ac rydym yn hyderu felly na fydd ein cwsmeriaid yn gweld unrhyw wahaniaeth yn y gwasanaeth wrth i ni sefydlu’r fenter newydd. Yr un fydd yr enw, y staff a’r gweithdrefnau sicrhau ansawdd trwyadl sydd wedi nodweddu gwasanaeth Cyfiaith o’r cychwyn.

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfieithu ysgrifenedig a gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i restr eang ac amrywiol o gleientiaid sy’n cynnwys rhai o gyrff cyhoeddus amlycaf Cymru, mudiadau gwirfoddol cenedlaethol a grwpiau lleol.

Personol

Mae’r tîm yn ddigon mawr i allu ymateb yn hyblyg i anghenion a gofynion ein cwsmeriaid ac yn ddigon bach i allu cynnig gwasanaeth personol a chyfeillgar.

Proffesiynol

Mae pob aelod o’r tîm naill ai’n aelod cyflawn neu’n aelod sylfaenol o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru ar gyfer cyfieithu ysgrifenedig a / neu gyfieithu ar y pryd.

Edrychwn ymlaen at barhau i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i’n cwsmeriaid presennol ac at feithrin perthynas waith gadarnhaol â chwsmeriaid newydd.


Manylion cyswllt

Cyfiaith
Uned 1
Bryn Salem
Felin-fach
Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion
SA48 8AE

Ffôn: 01570 471 389
E-bost: post@cyfiaith.com
www.cyfiaith.com

 

 

Mae Cyfiaith yn gwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru, rhif cwmni 07533026.
Swyddfa gofrestredig: Uned 1, Bryn Salem, Felin-fach, Llanbedr Pont Steffan, SA48 8AE